Jewish Agency for Israel

Jewish Agency for Israel
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1929 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifCentral Zionist Archives Edit this on Wikidata
RhagflaenyddPalestine Office Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad 501(c)(3) Edit this on Wikidata
PencadlysJeriwsalem Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jewishagency.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r Asiantaeth Iddewig, Seren Dafydd, King George St, Jerwsalem
Chaim Weizman, sylfaenydd a chyfarwyddwr y Zionist Commission (rhagflaenydd yr Asiantaeth Iddewig), arweinydd y Sefydliad Seionaidd daeth, maes o lawn, yn Sefydliad Seionyddol y Byd (WZO) ac Arlywydd cyntaf Gwladwriaeth Israel annibynnol

Yr Asiantaeth Iddewig ar gyfer Israel, yn swyddogol Jewish Agency for Israel neu, ar lafar, 'mond Jewish Agency (Hebraeg: הסוכנות היהודית לארץ ישראל, yr wyddor Ladin: HaSochnut HaYehudit L'Eretz Yisra'el) a elwid gynt yn yr Asiantaeth Iddewig dros Balestina,[1] yw'r sefydliad Iddewig di-broffil yn y byd. Fe'i sefydlwyd ym 1929 fel cangen weithredol Sefydliad Seionyddol y Byd (World Zionist Organisation, WZO). Cenhadaeth ddatganedig yr Asiantaeth yw “sicrhau bod pob person Iddewig yn teimlo cwlwm na ellir ei dorri i’w gilydd ac i Israel ni waeth ble maent yn byw yn y byd, fel y gallant barhau i chwarae eu rhan hanfodol yn ein stori Iddewig barhaus.”[2]

Mae'n fwyaf adnabyddus fel y prif sefydliad sy'n meithrin mewnfudo Iddewon mewn alltud i Wlad Israel (a elwir yn aliyah) ac yn goruchwylio eu hintegreiddio â Gwladwriaeth Israel.[3] Ers 1948, mae'r Asiantaeth Iddewig wedi dod â 3 miliwn o fewnfudwyr i Israel,[4] ac yn cynnig tai trosiannol iddynt mewn "canolfannau amsugno" ledled y wlad.[5]

Chwaraeodd yr Asiantaeth Iddewig ran ganolog yn y gwaith o sefydlu a datblygu Gwladwriaeth Israel. Gwasanaethodd David Ben-Gurion fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith o 1935, ac yn rhinwedd y swydd hon ar 14 Mai 1948, cyhoeddodd annibyniaeth Israel,[6] ac wedi hynny gwasanaethodd fel prif weinidog cyntaf Israel. Yn y blynyddoedd cyn sefydlu Israel, bu'r Asiantaeth Iddewig yn goruchwylio sefydlu tua 1,000 o drefi a phentrefi ym Mandad Prydeinig Palestina. Mae'r sefydliad yn gwasanaethu fel y prif gyswllt rhwng Israel a chymunedau Iddewig ar draws y byd.[7][8]

Yn ôl y gyfraith, sefydliad parastataidd yw'r Asiantaeth Iddewig, ond nid yw'n derbyn cyllid craidd gan lywodraeth Israel.[9] Ariennir yr Asiantaeth Iddewig gan Ffederasiynau Iddewig Gogledd America (JFNA), Keren Hayesod, prif gymunedau a ffederasiynau Iddewig, a sefydliadau a rhoddwyr o Israel a ledled y byd.[10] Yn 2008, enillodd yr Asiantaeth Iddewig Wobr Israel am ei chyfraniad hanesyddol i Israel ac i'r gymuned Iddewig ledled y byd.[11]

  1. "Jewish Agency for Palestine | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2022-05-06.
  2. "2018 Jewish Agency Performance Report". The Jewish Agency for Israel. Cyrchwyd October 23, 2019.
  3. "Jewish Agency – Aliyah". Jewish Agency. Cyrchwyd September 15, 2014.
  4. "Jewish Agency – Aliyah Statistics". The Jewish Agency for Israel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 20, 2014. Cyrchwyd August 12, 2013.
  5. "Jewish Agency – Aliyah of Rescue". Jewish Agency. Cyrchwyd September 15, 2014.
  6. "David Ben Gurion (1886–1973)". The Jewish Agency for Israel. 2 May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-26. Cyrchwyd March 28, 2016.
  7. "Jewish Agency: About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-06. Cyrchwyd September 30, 2013.
  8. "תולדות הסוכנות". cms.education.gov.il. Cyrchwyd 26 June 2017.
  9. Schwartz, Yaakov (23 August 2018). "Ugandan Jews to Israel, part-funded by government that rejects them". South African Jewish Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-09. Cyrchwyd 24 November 2018.
  10. "Jewish Agency Annual Report 2014". Jewish Agency. Cyrchwyd September 15, 2014.
  11. "Prize Organizations". Jerusalem Post. May 5, 2008. Cyrchwyd August 12, 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne